Parc carafanio & gwersylla Criccieth
Parc gwersylla braf i deuluoedd ar gyrion tref lan y môr Criccieth yw Llwyn Bugeilydd. Yn hawdd i’w gyrraedd oddi ar y brif ffordd, mae’n lecyn hwylus – yn agos at Barc Cenedlaethol Eryri a thaflied carreg o’r arfordir. Dyma leoliad perffaith ar gyfer dyddiau hirfelyn yn archwilio’r arfordir neu’n crwydro hyd lwybrau’r ardal cyn ymlacio a mwynhau nosweithiau hudolus dan y lloer.
Rydym yn cynnig
Lleoliad Hudolus
Dim ond taflied carreg yw Criccieth o Llwyn Bugeilydd a does dim rhaid mynd a’r car — mae’r llwybr i’r dref yn dro braf at y traeth a’r siopau hufen iâ neu am bryd o fwyd gyda’r hwyr wrth i’r haul fachlud. Os ydych am fynd ymhellach mae’n lleoliad canolog ar gyfer gweddill Gogledd Cymru gyda traethau a phentrefi braf Pen Llŷn i’r gorllewin a chopaon dramatig Eryri i’r gogledd. Wedi’r crwydro byddwch yn edrych ymlaen i ddychwelyd nôl i awyrgylch tawel a chroeso cynnes Llwyn Bugeilydd.
Edrychwn ymlaen i’ch croesau.


















