Rydym yn cynnig










Lleoliad Hudolus
Dim ond taflied carreg yw Criccieth o Llwyn Bugeilydd a does dim rhaid mynd a’r car — mae’r llwybr i’r dref yn dro braf at y traeth a’r siopau hufen iâ neu am bryd o fwyd gyda’r hwyr wrth i’r haul fachlud. Os ydych am fynd ymhellach mae’n lleoliad canolog ar gyfer gweddill Gogledd Cymru gyda traethau a phentrefi braf Pen Llŷn i’r gorllewin a chopaon dramatig Eryri i’r gogledd. Wedi’r crwydro byddwch yn edrych ymlaen i ddychwelyd nôl i awyrgylch tawel a chroeso cynnes Llwyn Bugeilydd.
