FAQs

Atebion i gwestiynau cyffredin am archebu, safleoedd a chyfleusterau

FAQs2026-02-23T22:15:06+00:00
Sut ydw i’n archebu safle?2026-02-25T16:25:24+00:00

Gallwch archebu drwy ein ffurflen archebu, neu gysylltu â ni’n uniongyrchol drwy ein tudalen Gyswllt. Rhannwch eich dyddiadau, y math o uned (carafan/camperfan/pabell). Os oes lle, byddwn yn ateb ac yn cadarnhau eich archeb.

Beth yw’r amser cyrraedd a gadael?2026-02-25T16:25:56+00:00

Byddwn yn cadarnhau eich amser cyrraedd a gadael ar eich archeb. Onde in amseroedd arferol yw cyrraedd am 2 o’r gloch yp a gadael am 11yb. Os oes angen i chi gyrraedd yn gynharach neu adael yn hwyrach, cysylltwch â ni a byddwn yn gwneud ein gorau i fod yn hyblyg.

Ydych chi’n derbyn carafanau, motorhomes, camperfans a phebyll?2026-02-25T16:26:13+00:00

Rydym yn croesawu’r uchod i gyd ac mae yma opsiynau o safleoedd i weddu i amrywiol gerbydau.

Ydych chi’n cynnig safleoedd gyda thrydan?2026-02-25T16:26:41+00:00

Mae gan bron pob safle gysylltiad trydan.

A oes lle parcio wrth ymyl fy safle?2026-02-25T16:27:51+00:00

Oes, yn y rhan fwyaf o achosion, —mae parcio fel arfer wrth eich safle. Os oes gennych ofynion arbennig, nodwch hynny wrth archebu fel y gallwn ddewis y safle fwyaf addas.

A oes toiledau a chawodydd ar y safle?2026-02-25T16:28:29+00:00

Oes.  Mae gan y parc doiledau a chawodydd ar gael i westeion.

A oes Wi‑Fi am ddim ar y safle?2026-02-24T15:41:06+00:00

Ie, mae Wi‑Fi am ddim ar gael ar y parc.

A oes golchdy?2026-02-25T16:29:06+00:00

Oes. Mae gennym gyfleusterau golchi dillad ar y safle i helpu gyda arhosiadau hirach a theithiau teuluol. Gellir prynu tocynnau ar y safle i ddefnyddio’r golchdy.

A oes ardal chwarae i blant?2026-02-25T16:29:17+00:00

Oes.  Mae ardal chwarae ac ardal bicnic i blant ar y safle ar gyfer teuluoedd.

A yw cŵn yn cael dod ar y safle?2026-02-24T15:41:06+00:00

Ie, mae croeso i gŵn. Gofynnwn i berchnogion fod yn ystyriol o westeion eraill a dilyn rheolau’r parc.

A oes cae ymarfer cŵn?2026-02-24T15:41:06+00:00

Ie. Mae gennym gae ymarfer cŵn pwrpasol i westeion.

Beth allwn ni ei wneud gerllaw yn ystod ein harhosiad?2026-02-24T15:41:06+00:00

Rydym mewn lleoliad gwych i archwilio Criccieth a’r ardal o’i chwmpas, gan gynnwys traethau, teithiau cerdded lleol, Pen Llŷn a theithiau dydd i Eryri (Snowdonia).

A ydych chi’n llogi pyllau tân, a beth sy’n cael ei gynnwys?2026-02-24T15:41:06+00:00

Ie — mae pyllau tân ar gael i’w llogi (yn amodol ar argaeledd), ond ni chaniateir tanau gwersylla ar y safle. Cysylltwch â ni ymlaen llaw neu ar gyrraedd a byddwn yn cadarnhau beth sydd wedi’i gynnwys, ynghyd ag unrhyw reolau ar y safle ar gyfer defnydd diogel.

Oes yna ddewis o safleoedd called neu laswellt?2026-02-25T16:29:50+00:00

Oes.  Rydym yn cynnig safleoedd caled a rhai glaswellt. Rhowch wybod i ni ar y ffurflen archebu neu drwy ein tudalen Gyswllt beth yw eich anghenion, a byddwn yn gwneud ein gorau i’ch paru â’r safle mwyaf addas (yn amodol ar argaeledd).

Lleoliad Hudolus

Dim ond taflied carreg yw Criccieth o Llwyn Bugeilydd a does dim rhaid mynd a’r car — mae’r llwybr i’r dref yn dro braf at y traeth a’r siopau hufen iâ neu am bryd o fwyd gyda’r hwyr wrth i’r haul fachlud. Os ydych am fynd ymhellach mae’n lleoliad canolog ar gyfer gweddill Gogledd Cymru gyda traethau a phentrefi braf Pen Llŷn i’r gorllewin a chopaon dramatig Eryri i’r gogledd. Wedi’r crwydro byddwch yn edrych ymlaen i ddychwelyd nôl i awyrgylch tawel a chroeso cynnes Llwyn Bugeilydd.